Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Mawrth 2016

Amser y cyfarfod: 13.30
 


(323)v5

<AI1>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar Fargeinion Dinesig

(30 munud)

</AI3>

<AI4>

4       Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

(15 munud)

​NDM6015 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

</AI4>

<AI5>

5       Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau

(5 munud)

NDM6010 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Syr Roderick Evans yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2016.

</AI5>

<AI6>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y tair eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

 

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad

(5 munud)

NDM6013 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26A mewn perthynas â Deddfau Preifat y Cynulliad a Rheol Sefydlog 26B mewn perthynas â Deddfau Hybrid y Cynulliad

(5 munud)

NDM6014 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26A – Biliau Preifat a Rheol Sefydlog 26B – Biliau Hybrid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26A a chyflwyno Rheol Sefydlog newydd 26B, fel y nodir yn Atodiadau B a D i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI8>

<AI9>

8       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 18 a 30A mewn perthynas â Gwelliannau Amrywiol

(5 munud)

NDM6012 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru - a Rheol Sefydlog 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 a 30A, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI9>

<AI10>

9       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

(60 munud)

NDM6006 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

Dogfennau Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI10>

<AI11>

10   Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC

(60 munud)

NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad. 

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

</AI11>

<AI12>

11   Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru?

(60 munud)

NDM6007 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

</AI12>

<AI13>

12   Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

(60 munud)

NDM6011 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal sylfaenol yng Nghymru, gyda phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n heneiddio gyda mwy o anghenion gofal cymhleth;

2. Yn nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario ar ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn 2015-2016;

3. Yn nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon teulu yn y DU, gyda 23 y cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran hyfforddi digon o feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad cleifion at feddygon teulu;

b) gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol;

c) adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i ddiwallu anghenion cleifion;

d) gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd priodol;

e) adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu; a

f) gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel proffesiwn.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu, a sicrhau bod y rotas hyfforddiant i feddygon teulu yn cwmpasu ardaloedd gwledig a difreintiedig er mwyn cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i feddygon teulu sy'n ymarfer yn yr ardaloedd hynny.

</AI13>

<AI14>

13   Dadl Fer

(30 munud)

NDM6008 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):

Caerfyrddin 1966 a 2016: 50 mlynedd sydd wedi newid Cymru

Hanes datganoli ers 1966 a'r potensial i greu llywodraeth ddatganoledig yn y dyfodol a fydd yn darparu gwasanaethau ardderchog

</AI14>

<AI15>

14   Cyfnod pleidleisio

 

</AI15>

<AI16>

15   Datganiadau i Gloi a Chludo’r Byrllysg o’r Siambr

 

</AI16>

<AI17>

Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ddiddymu am hanner nos ar 6 Ebrill 2016. Ni fydd busnes yn y Cynulliad yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y Pumed Cynulliad yn dechrau wedi diwrnod yr etholiad ar 5 Mai 2016. Bydd angen i’r Cynulliad gynnal Cyfarfod Llawn i ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd o fewn saith diwrnod gwaith wedi dyddiad yr etholiad.

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>